attribution
Sbaen
Mae plant yn dod â dail palmwydd i'r eglwys ar ddydd Sul y Blodau. Mae merched yn addurno eu canghennau gyda tinsel a losin.
Ar Ddydd Mercher Lludw rhoddir croes o ludw ar dalcennau pobl i ymddiheuro i Dduw am y pethau drwg maen nhw wedi'i wneud.
Ar Ddydd Iau'r Gofid bydd dynion yn gwisgo fel sgerbydau ac yn perfformio'r ddawns marwolaeth i symboleiddio marwolaeth Iesu.
Yn Ne Sbaen mae'r bechgyn yn taro drymiau yn ystod gorymdeithiau'r eglwys.
Mi fydd Sbaen yn cynnal gorymdeithiau gyda bandiau pres a fflotiau yn dangos darluniau stori'r Pasg. Mae'r gorymdeithiau yn cael eu dilyn gan bobl wedi'i gorchuddio a chlogwyn sy'n gofyn am faddeuant gan Dduw.